Yn fynych, fynych, Iesu cu, Datguddia'th hun i'm henaid i; Mewn 'stormydd mawr yn wastad gâd Im' allu llefain, "Abba, Dad." Gwna fi'n gyfarwydd iawn o hyd Yn ffyrdd d'orch'mynion yn y byd; Na ad i bechod roi im' glwy', Nac ofnau angau ' mlino mwy. Tra caffwyf rodio'r ddaear hon, Rho'th hedd fel afon dan fy mron; Ac yn y diwedd moes dy law I'm dwyn o'r byd i'r nefoedd draw. -  - - - - (Y Cyfaill goreu) Yn fynych fynych Iesu cu, Datguddia'th fod yn eiddo i mi; Mewn 'stormydd mawr yn wastad gad, I'm ddysgu llefain Abba Dad. Yr Oen a laddwyd ydyw rhan, A holl hyfrydwch fy enaid gwan: Fy Mrawd a Mhriod fydd e' mwy, Yn mhob cyfyngder elwy' trwy. Wrth droi fy ngolwg yma lawr, I gyrau'r holl gre'digaeth fawr; Gwrthddrych ni wel fy enaid gwan, Ond Iesu i bwyso arno'n rhan. Pwy wrendy ruddfan f'enaid gwan, Pwy'm c'od o'm holl ofidiau i'r làn? Pwy garia'm baich fel Brenin ne', Pwy gydymdeimla fel efe. Wel, dyma un, O d'wedwch ple, Y ffeindir arall fel efe; A bery'n ffyddlon im' o hyd, Y'mhob rhyw drallod yn y byd.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Bendigaid fyth fo enw Duw ('R hwn wnaeth ...) Fy unig gysur dan y ne' O Arglwydd gwna fi'n golofn gre' 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy' Wrth droi fy ngolwg [yma i lawr / yma'n awr] Yr Oen a laddwyd ydyw rhan |
Often, often, dear Jesus, Reveal thyself to my soul; In the great storms continually let Me be able to say, "Abba, Father." Make me very familiar always With the ways of thy commandments in the world; Not for sin to give me a wound, Nor fears of death worry me any more. While I may roam this earth, Give thy peace like a river under my breast; And in the end give thy hand To lead me from the world to the heavens yonder. -  - - - - (The best Friend) Often, often, dear Jesus, Reveal that thou dost belong to me; In great storms constantly let Me learn to cry Abba Father. The Lamb who was slain is the portion, All the delight of my weak soul: My Brother and Spouse he shall be evermore, In every strait I go through. On turning my gaze here down, To the corners of all the great creation; No object may my weak soul see, But Jesus to lean upon as a portion. Who shall hear the groans of my weak soul, Who shall rise me up from all my griefs? Who shall carry my burden like the King of heaven, Who shall sympathise like he? See, here is one, O tell ye where, Another may be found like he; Who will remain faithful to me always, In every kind of trouble in the world.tr. 2008,22 Richard B Gillion |
|